2014 Rhif 219 (Cy. 29)

TIROEDD COMIN, CYMRU

Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae adran 9 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 yn gwahardd, yn ddarostyngedig i eithriadau, hollti hawl comin oddi wrth y tir y mae'r hawl honno'n gysylltiedig ag ef.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn caniatáu hollti dros dro hawl comin i bori anifeiliaid oddi wrth y tir y mae'r hawl honno'n gysylltiedig ag ef drwy alluogi lesio neu drwyddedu'r hawl i drydydd parti am ddim mwy na phum mlynedd.

Mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gytundeb hollti dros dro a wneir o dan y Gorchymyn hwn gynnwys cymal yn sicrhau yr hysbysir yr Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin perthnasol a sefydliadau ac unigolion amrywiol eraill am y cytundeb, o fewn 28 o ddiwrnodau.

Mae erthygl 5 yn dirymu Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007.

Mae erthygl 6 yn diogelu effaith unrhyw lesoedd neu drwyddedau yr ymrwymir iddynt yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol o effeithiau'r Gorchymyn hwn ar gostau busnes, o ran cynyddu'r cyfnod y gall cytundeb hollti dros dro bara, wedi cael ei baratoi mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copïau gan yr Adran Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar  1 Mawrth 2014. 


2014 Rhif 219 (Cy. 29)

TIROEDD COMIN, cymru

Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2014

Gwnaed                               4 Chwefror 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       6 Chwefror 2014

Yn dod i rym                          1 Mawrth 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 9(2) a (7), 59(1) a 61(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006([1]), a pharagraffau 2(1) a 2(4) o Atodlen 1 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2014.

(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar  1 Mawrth 2014.

(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin” (“Commons Registration Authority”)  yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “cytundeb hollti dros dro” (“temporary severance agreement”) yw unrhyw les neu drwydded hawl comin yr ymrwymir iddi yn unol ag erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;

ystyr “Gorchymyn 2007” (“the 2007 Order”) yw Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007.

Hollti dros dro hawl comin

3.(1) Caniateir i hawl comin i bori anifeiliaid y mae adran 9(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 yn gymwys iddi gael ei hollti dros dro oddi wrth y tir y mae'r hawl honno'n gysylltiedig ag ef drwy lesio neu drwyddedu—

(a)     hawl comin ar ei phen ei hun, ar yr amod na fydd cyfnod y les neu'r drwydded yn hwy na phum mlynedd; neu

(b)     y tir, neu ran o'r tir, y mae'r hawl comin yn gysylltiedig ag ef, heb yr hawl comin.

(2) Pan fo hawl comin wedi'i hollti dros dro oddi wrth unrhyw dir yn unol â pharagraff (1)(b), ni fydd unrhyw effaith i unrhyw warediad o'r hawl comin a gedwir adeg rhoi'r les neu'r drwydded ar y tir neu ar ôl ei rhoi a chyn i'r hawl honno gael ei therfynu oni fydd yn cael ei gwaredu—

(a)     i grantî'r les neu'r drwydded ar y tir; a

(b)     am gyfnod sy'n dod i ben ddim mwy na phum mlynedd ar ôl i'r les neu'r drwydded honno ddod i ben.

(3) Ar ôl i gyfnod unrhyw les neu drwydded ddod i ben, caiff y partïon ei hadnewyddu am gyfnodau pellach o hyd at bum mlynedd.

(4) Mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon at hawl comin, mewn perthynas â hawl comin i bori mwy nag un anifail, yn cynnwys hawl i bori cyfran o nifer yr anifeiliaid y caniateir eu pori yn rhinwedd yr hawl comin honno.

Hysbysu

4.(1) Rhaid i bob cytundeb hollti dros dro gynnwys darpariaeth yn pennu bod yn rhaid i'r tirfeddiannwr y mae'r hawl comin i bori anifeiliaid yn gysylltiedig ag ef, o fewn 28 o ddiwrnodau i wneud cytundeb hollti dros dro, ddarparu—

(a)     enwau a chyfeiriadau'r partïon;

(b)     y dyddiad yr ymrwymwyd i’r cytundeb;

(c)     cyfnod para'r cytundeb;

(d)     y tir y mae'r cytundeb yn gysylltiedig ag ef; ac

(e)     natur/hyd a lled yr hawliau pori;

i'r personau a restrir ym mharagraff (2).

(2) Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)     yr Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin y mae'r tir wedi ei leoli yn ei ardal;

(b)     tirfeddiannwr y comin y mae'r hawliau yn arferadwy arno, i'r graddau y gellir adnabod y person hwnnw drwy ymholiadau rhesymol;

(c)     unrhyw gymdeithas cominwyr neu gymdeithas porwyr berthnasol neu sefydliad tebyg perthnasol; a

(d)     Corff Adnoddau Naturiol Cymru, os yw'r tir comin y mae'r hawliau'n gymwys iddo yn cynnwys safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSI) o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981([3]).

(3) Yn ogystal â'r gofynion hysbysu a gaiff eu cynnwys ym mharagraff 4(1), rhaid i bob cytundeb hollti dros dro gynnwys darpariaeth yn pennu bod yn rhaid i'r tirfeddiannwr y mae'r hawl comin i bori anifeiliaid yn gysylltiedig ag ef, ddarparu unrhyw wybodaeth arall y gofynnir yn rhesymol amdani ar gyfer yr Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin y mae'r tir wedi ei leoli yn ei ardal, i'r personau a restrir ym mharagraff 4(2) o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl cael y cais hwnnw.

Dirymu

5. Mae Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007([4]) wedi'i ddirymu.

Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol

6. Nid yw erthygl 5 (Dirymu) yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw lesoedd neu drwyddedau yr ymrwymir iddynt yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn 2007, nad ydynt, ar yr adeg pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, wedi dod i ben.

 

 

 

Alun Davies

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

 

4 Chwefror 2014



([1])           2006 p. 26.

([2])           Gweler Adran 61(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 i gael ystyr “awdurdod cenedlaethol priodol”. Mae swyddogaethau'r “awdurdod cenedlaethol priodol” yn arferadwy, o ran Cymru, gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

([3])           1981 p. 69.

([4])           O.S. 2007/583 (Cy. 55).